top of page

Mae derbyn noddiant fel rhan o Gronfa Adferiad Diwylliannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn anrhyded

Rydyn ni mor ffodus i dderbyn y noddiant arbennig yma, bydd yn galluogi PuppetSoup i barhau ein ymdrech hanfodol yma yng Nghymru i ddatblygu ein gwaith sy’n cyd fynd gyda’r ‘cytundeb diwyllianol’ sydd yn annog:

Amodau gweithio teg

Gwella amrywiaeth eu gweithle

Cynnig blaengareddau iechyd a chelfyddydol

Gwella effaith amgylcheddol eu gwaith

Fel cwmni sydd wedi’i llywio gan anghenion anabl a chymunedau lleiafrifol, rydyn ni’n teimlo’n gryf am gynnig tîm rhyngwladol cryf ac amrywiol i gydweithio gyda ni, tîm sydd yn gallu cynnig amrywiaeth o sgiliau a medrau. Rydyn ni yn ymrddogar i ehangu ein hygyrch ac amrywiaeth ein cynulleidfa.

Rydyn ni’n ffodus iawn wedi bod mewn partneriaeth gyda chwmnïoedd llwyddiannus a sylweddol megis GIG, RSPB, Fusion, Connecting Care for Children a Heddlu Gwent, yn ogystal â phrosiectau â demograffeg, oedrannau a medrau amrywiol. Rydyn ni yn hapus ac yn ffodus iawn i barhau i ehangu ein gwaith iechyd a gofal yn ogystal â chydweithio â phartneriaid newydd.

Bydd y rhoddiad yma yn darparu PuppetSoup gyda chefnogaeth ariannol angenrheidiol i ddatblygu ffyrdd gweithio sydd yn sicrhau amodau diogel COVID yn ogystal â diogelu swyddi ac yn rhoi cymorth i weithwyr annibynnol.

Diolch i’r Cyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi PuppetSoup.

59 views0 comments

Comentários


Os comentários foram desativados.
bottom of page