top of page

Amdanom ni

Mae PuppetSoup yn gwmni theatr arobryn o Gymru sy’n creu ‘Pypedau. I bawb’.

Mae PuppetSoup yn creu sioeau i theatrau mawr a bach, ysgolion, lleoliadau cymunedol, lleoliadau gwledig a gwyliau. 

​

Rydym yn addysgu pypedau ac yn cynnig gweithdai proffesiynol i hysgolion, grwpiau ac unigolion ar-lein ac wyneb i wyneb.

​

Cymerwch gip ar ein dudalen gweithdai i ddod o hyd i gwrs gwneud pyped neu gwrs perfformiad sydd at eich dant chi. Mae gennym ni wefan cyrsiau pypedau pwrpasol ac ysgol pypedau rithiol o’r enw puppetrycourses.com

​

Mae bwcio gweithdy neu sioe gennym ni yn hawdd; dim ond ddanfon e-bost atom sydd angen a byddwn yn trefnu popeth sydd ei angen arnoch neu’n ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

​

Mae PuppetSoup wedi’u lleoli yng Nghymru ond rydym ar gael ar gyfer ymweliadau ar draws yr U.K. ac am gyrsiau pypedau ar-lein ar draws y byd.

 

Yr ydym wedi’n hyswirio’n llawn ac wedi’n gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

​

pinoccio-1.jpg
Ein nod yw hyrwyddo pypedwaith, ehangu cynulleiddfa theatr bypedau ac i gyfoethogi’r gymyned drwy profiadau celfyddydol rhagorol

 

Rydym wedi cynrychioli a chydweithio gyda sefydliadau mawr fel GIG, yr RSPB, Heddlu Gwent, Connecting Care for Children ac Chyngor Celfeddydau Cymru.

​

Rydym wedi cynrychioli Cymru gyda balchder yng Ngwyl Caeredin, wedi cynnal llawer o phrosiectau cymynedol ac wedi gweithio gyda nifer o gwmniau theatr, ysgolion, grwpiau cymunedol ac unigolion.

​

IMG_3937-1024x682%20(1)_edited.jpg

​​

Mae PuppetSoup yn creu gwaith gweledol ac amlieithog ac yn cynnig cyfleoedd dysgu amrywiol a gweithgareddau ar gyfer pob oedran. Rydym yn dod â phypedwaith i bobman achos rydym yn credu fod pawb yn haeddu bod yn aelod o’r gynulleidfa.

 

Mae ein ymarferwyr yn gyfeillgar, yn broffessiynol, yn brofiadol iawn ac yn gweithio’n galed.

Rydym yn dod o bob cwr o’r byd ac yn creu theatr rhagorol yma yn Nghymru. Daw ein cydweithwyr o Gymru, Brasil, Portiwgal, yr Amerig, dwyrain Ewrop a thu hwnt. Mae ein holl waith yn cael ei greu gan ystyried amrywiaeth o gynhwysiant ac rydym yn gwmni cyfeillgar i’r anabl.

​

Mae gan y ddau gyfarwyddwr PuppetSoup raddau anrhydedd mewn pypedwaith o’r Ysgol Ganolig Frenhinol Lleferydd a Drama yn Llundain ac yn dysgu pypedwaith ar lefelau uwch.

 

I wybod mwy am y bobl sy’n gweithio i PuppetSoup, edrychwch ar y dydalen ‘ Our Team’

 

​

download-7-683x1024.jpg

Credwn y dylai pypedwaith o safon uchel, rhyfeddol, gafaelgar, hwyliog ac ambell waith heriol, fod i bawb.

​

Cysylltwch â ni os hoffech archebu sioe neu weithgaredd, neu eisio cydweithio gyda ni. Byddem yn hapus i helpu!

bottom of page